Croeso i Glinig Sgwâr Caernarfon
Gall Clinig Sgwâr Caernarfon gynnig ystod lawn o wasanaethau deintyddol i gleifion yng Nghaernarfon a’r ardaloedd cyfagos – o ddeintyddiaeth gyffredinol/teuluol, hyd at y triniaethau deintyddol cosmetig technolegol diweddaraf i wella eich gwên.
Felly os ydych chi’n chwilio am driniaeth ddeintyddol gosmetig, adferiad geneuol (oral) cyflawn neu ofal deintyddol cyffredinol o safon, cymerwch gip ar ein gwefan a chysylltwch â ni ar 01286 673174 os hoffech drefnu ymgynghoriad neu os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau.
Amdanom Ni
Ers mis Gorffennaf 2016, mae Clinig Sgwâr Caernarfon wedi bod dan berchnogaeth Nia Hughes-Jones wedi iddi gymryd yr awenau gan Mr a Mrs Humphreys. Mae Nia a’i thîm cyfeillgar a phroffesiynol yn edrych ymlaen at groesawu cleifion hen a newydd, gan barhau i gynnig gwasanaeth deintyddol o’r safon uchaf.
Ein hathroniaeth yw datblygu perthynas agos â'n cleifion er mwyn deall eu pryderon a'u dymuniadau yn drylwyr, a chynnig triniaeth o ansawdd mewn amgylchedd ymlaciol, cyfeillgar, a phroffesiynol.