Deintyddiaeth Gyffredinol

Cartref > Ein Gwasanaethau > Deintyddiaeth Gyffredinol

Yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon, mae gennym dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol gofalgar i ddarparu gofal o’r safon uchaf gan ddefnyddio’r deunyddiau a’r technegau mwyaf modern. Ein nod yw gofalu am iechyd eich dannedd a'ch deintgig am oes trwy gynnig gofal ataliol o'r radd flaenaf a ddarperir gan ein hylenydd. Ac wrth gwrs, mae staff ein derbynfa a’n staff nyrsio yno i ofalu amdanoch chi trwy gydol eich profiad deintyddol.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich gofal deintyddol yn diwallu eich anghenion unigol a byddwn yn trafod yr opsiynau a’r triniaethau posib gyda chi, gan roi amser i chi ofyn cwestiynau ac ystyried y dewisiadau eraill.

Rydym yn cynnig ystod lawn o ddeintyddiaeth ataliol a chosmetig. Mae gan bob ystafell drin y dechnoleg radiograffeg ddigidol a delweddu o fewn y geg ddiweddaraf i'n helpu i wneud diagnosis pan fydd angen triniaeth ac egluro'r triniaethau posib i chi. Efallai y byddwn yn awgrymu atgyfeirio at arbenigwr penodol, os yw hyn yn briodol – er enghraifft triniaeth orthodontig, llenwadau gwreiddiau cymhleth a mewnblaniadau.

Rydym yn annog ein cleifion i weld hylenydd y practis yn aml i ddysgu sut i ofalu am eu dannedd trwy ddeiet a hylendid y geg.

Gofal brys

Os bydd gennych argyfwng deintyddol y tu allan i oriau arferol y practis, ffoniwch 01286 673174 a byddwch yn cael cyfarwyddiadau pellach i'ch galluogi i gysylltu â'r deintydd ar alwad. Efallai na fyddwch yn gweld eich deintydd arferol ond bydd y broblem dan sylw yn cael ei thrin. Yn ystod oriau practis, rydym yn ymdrechu i weld unrhyw glaf sydd ag argyfwng deintyddol o fewn 24 awr ond fel arfer yr un diwrnod.