Polisi Cwynion

Cartref > Polisi Cwynion

Ein nod ni bob amser yw cael ceifion bodlon, bodloni eich disgwyliadau gofal a gwasanaeth, a datrys unrhyw gwyion mor effeithlon a chwrtais â phosib. Mae cwynion yn peri pryder i ni ac rydym yn ymchilio iddynt mewn ffordd lawn a theg, ac yn cymryd llawer o ofal i warchod eich cyfrinachedd. Rydym yn dysgu oddi wrth gwynion er mwyn gwella ein gofala’n gwasaneath. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn cleifion sydd wedi gwneud cwyn a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau yr hoffech o bosib eu codi ynglŷn â’r weithdrefn hon.

Os nad ydych yn gwbl fodlon gydag unrhyw agwedd ar ein gofal neu ein gwasanaeth, cofiwch roi gwybod i ni cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda, fel ein bod yn gallu rhoi sylw i’ch pryderon yn brydlon. Rydym yn derbyn cwynion ar lafar yn ogystal â chwynion ysgrifenedig. Os nad ydych yn teimlo bod posib i chi fynegi cwyn am wasanaeth y GIG yn uniongyrchol i ni, gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r Bwrdd Iecyd Lleol

Felicity Garbett yw’r Rheolwr Cwynion a’ch cyswllt personol chi I’ch helpu gydag unrhyw gwynion. Os na chaiff eich cwyn lafar ei datrys er boddhad i chi o fewn 24 awr, neu os ydych wedi cwyno’n ysgrifenedig, bydd y Rheolwr Cwynion yn eich cydnabod yn ysgrifenedig o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac wedyn bydd yn ceisio darparu ymateb llawn yn ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod gwaith.

Gallwch anfon eich cwynion i 35 Castle Square, Caernarfon, LL55 2NN, ein ffonio ar 01286 673174 neu anfon e-bost at y Rheolwr Cwynion.

Os nad yw’r Rheolwr Cwynion ar gael, byddyn yn cymryd manylion cryno am y gŵyn ac yn trefnu cyfarfod ar adeg sy’n addas i chi ac i’r practis. Byddwn yn cadw cofnodion cynhwysfawr a chyfrinachol am eich cwyn a byddant yn cael eu cadw’n ddiogel ac ar gael i’r rhai sydd angen gwybod an eich cwyn yn unig. Os bydd yr ymchwiliad i’ch cwyn yn cymryd mwy o amser na’r  disgwyl, bydd y Rheolwr Cwynion yn cysylltu â chi o leiaf bob deg diwrnod gwaith I roi gwybodeath gyson i chi am y rheswm dros unrhyw oedi, am gynnydd yr ymchwiliad, ac am y dyddiad arfaethedig ar gyfer ei gwblhau.

Pan fydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, byddwch yn cael gwybod am y canlyniad yn ysgrifenedig. Byddwn yn gwneud ein hymateb yn glir, gan roi sylw i bob un o’ch pryderon cystal ag y gallwn. Byddwch hefyd yn Cael gwahoddiad i gyfarfod i drafod y canlyniadau ac unrhyw ddatrysiadau ymarferol y gallwn eu cynnig i chi. Gallai’r datrysiadau hyn gynnwys cyfnewid triniaeth, ad-dalu ffioedd sydd wedi’u talu, eich cyfeirio i gael triniaethau arbennig neu ddatrysiadau eraill sy’n diwallu eich anghenion ac yn datrys y gŵyn.

Rydym yn dadansoddi cwynion cleifion yn rhelolaidd er mwyn dysgu oddi wrthynt ac er mwyn gwella ein gwasanaethau. Dyma pam rydym bob amser yn croesawu eich adborth, eich sylwadau, eich awgrymiadau a’ch cwynion. Os ydych un adfodlon gyda’n hymateb i gŵyn, mae croeso i chi fynd â’r mater ymhellach. Gweler y manylion cysylltu isod.

Manylion Cysylltu

Ar gyfer triniaethau deintyddol preifat, gallwch gysylltu â gwasaneath cwynion deintyddol preifat y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o fewn 12 mis i gael y driniaeth neu o fewn 12 mis I ddod yn ymwybodol o’r broblem, drwy ffonio 020 8253 0800 ney fynd i www.dentalcomplaints.org.uk.

Os ydych yn teimlo nad yw’r practis yn bodloni ei ddyletswyddau o ran yr iaith Gymraeg, gallwch fynegi eich pryder wrth Gomisiynydd y Gymraeg drwy ffonio 0845 6033 221 nae fynd i www.comisiynyddygymraeg.cymru.

Os hoffwch gael cefnogaeth neu gyngor am eich cwyn am y GIG, mae posib cysylltu â’r Cyngor Iechyd Cymunedol lleol drwy ffonio 01286 674971. Os ydych dal anfodlon gya’ch cwyn am y GIG, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Cymru drwy ffonio 0300 790 0203 neu fynd i www.ombudsman-wales.org.uk. Hefyd mae cysylltu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sef arolygiaeth a rheoleiddiwrannibynnol ar yr holl ofal iechyd yng Nghymru, drwy ffonio 0300 062 8163.

Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn gyfrifol am reoleiddio pob gweithiwr deintyddol proffesiynol. Cewch gwyno gan ddefnyddio eu ffurflen ar-lein yn www.gdc-uk.org, drwy gysylltu â nhw ar information@gdc-org.uk neu drwy ffonio 020 7167 6000.