Gwynnu Dannedd
Cartref > Ein Gwasanaethau > Gwynnu Dannedd
Pam fod dannedd yn mynd yn dywyllach?
Dros nifer o flynyddoedd mae lliw eich dannedd yn newid gan fod staeniau'n ymwreiddio'n ddwfn i'r dant ac yn ffurfio rhan ohono yn y pen draw. Te, coffi a gwin coch yw'r pethau gwaethaf am achosi hyn. Hefyd, wrth i ddannedd heneiddio, mae’r dentin yn dod yn fwy ‘trwchus’ ac mae’r “gragen” enamel yn mynd yn deneuach gan roi edrychiad tywyllach a melynaidd i’r dannedd. Pethau eraill sy’n achosi i liw eich dannedd newid yw afliwiadau (discoloration) oherwydd staenio o Tetracycline (gwrthfiotig) neu fflworosis (gormod o fflworid) neu hypomineraleiddio (mae gan y dant ddarnau meddalach sy'n staenio'n haws). Heb sôn am blac (bacteria), cen (tartar) a phydredd.
Sut allwch chi wella lliw eich dannedd?
Mae dwy ffordd o wella lliw dannedd. Y cyntaf yw defnyddio Argaenau (Veneers) Porslen a'r ail yw gwynnu (Bleaching). Mae esboniad o’r ddau beth hyn isod.
Argaenau (Veneers)
Yn ogystal â gwynnu'r wên, gellir defnyddio argaenau i gywiro dannedd hyll, cam neu ddannedd sydd â tholciau ynddynt a chael gwared ar unrhyw fylchau hyll. Gan fod y deintig (gums) yn crebachu gydag oedran, efallai y bydd angen ailosod argaenau bob 5 - 10 mlynedd er mwyn atal ymylon yr argaenau rhag dod i’r golwg ar ymyl y deintgig. Rhaid deall hyn yn drylwyr cyn cynnal triniaeth helaeth fel gosod argaenau gan nad oes modd ei gwyrdroi. Fodd bynnag, mae ganddynt y fantais ychwanegol bod y claf yn gallu dewis lliw eu gwên newydd. Gellir cyflawni canlyniadau gwirioneddol syfrdanol, ac yn aml gallwch chi ymddangos flynyddoedd lawer yn iau. Mae'r math hwn o driniaeth yn cynnwys tynnu meinwe (tissue) dannedd yn barhaol ac felly mae'n broses na ellir ei gwrthdroi. Bydd eich deintydd yn gallu cynghori ai gosod argaenau yw'r driniaeth orau i chi.
Gwynnu Dannedd
Mae llawer mwy i gwynnu dannedd na fyddech chi’n meddwl!
Sut mae gwynnu dannedd yn gwynnu dannedd?
Mae ocsigen yn treiddio i strwythur y dannedd ac yn torri’r moleciwlau staenio cadwyn hir (mae'r rhain yn dywyll) i lawr, gan arwain at foleciwlau cadwyn fer sy'n ysgafn eu lliw.
A yw gwynnu yn ddiogel?
Mae'n gwbl ddiogel i strwythur y dannedd. Gall canyddion crynodiad uchel fod yn gostig (caustic) i’r deintgig, y gwefusau ac ati ond mae hyn yn llai o broblem y dyddiau hyn gan fod cryfder geliau gwynnu wedi'i gyfyngu yng nghyfarwyddebau newydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). Yn flaenorol, roedd rhai systemau gwynnu deintyddol yn golygu bod rhaid diogelu'r rhannau hyn o’r geg gan fod y crynodiad o gannydd yn gallu bod yn uchel iawn (hyd at 38%). Fodd bynnag, mewn Cyfarwyddeb Cyngor yr UE a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012, mae crynodiad y gwynnu wedi'i reoleiddio ac ni all fod yn uwch na 6% hydrogen perocsid, sy'n cyfateb i gel gwynnu sy'n cynnwys 16% perocsid carbamid. Gallai platiau (trays) gwynnu sy'n ffitio'n wael arwain at lyncu cannydd a llid yn y deintgig ond mae'r platiau Enlighten wedi'u cynllunio'n benodol i osgoi'r problemau hyn.
NI DDYLID gwynnu yn ystod beichiogrwydd neu os oes gennych dyllau mawr yn eich dannedd.
A oes terfyn oedran i gwynnu?
Y consensws presennol yw nad oes unrhyw derfynau oedran i gwnynu. Mae dannedd plant mewn gwirionedd yn eithaf athraidd (permeable) ac yn gwynnu'n dda. Yr amser delfrydol i ddechrau gwynnu dannedd plentyn yw pan fyddant yn 14-16 oed. Ond mae gwynnu dannedd hefyd yn boblogaidd gyda phobl hŷn y mae eu dannedd wedi dechrau dod yn fwy melyn a staenio gydag oedran.
Ymweliad Gwynnu Gartref 1
Mae'r deintydd yn cymryd argraffiadau o'ch dannedd. Bydd yr argraffiadau hyn yn cael eu defnyddio i wneud platiau gwynnu dwfn yn y labordy deintyddol. Byddwch yn cael serwm dannedd Enlighten i'w ddefnyddio fel past dannedd cyn ac yn ystod y driniaeth sy'n helpu i gryfhau a “selio” eich dannedd i atal sensitifrwydd yn ystod y broses gwynnu. Bydd ffotograffau'n cael eu tynnu i gofnodi lliw naturiol eich dannedd cyn dechrau gwynnu.
Ymweliad Gwynnu Gartref 2
Y ‘Deep Bleaching Tray’ neu’r Plât Gwynnu Dwfn yw’r unig blât gwynnu sy'n bodoli sy'n selio'r gel ac yn cadw unrhyw boer allan. Cafodd hwn ei ddatblygu dros gyfnod o 15 mlynedd gan ddeintydd o’r Unol Daleithiau, Dr Rod Kurthy, awdurdod byd-eang ar gwynnu dannedd, ac, ynghyd ag elfennau eraill, arweiniodd at ddatblygu system gwynnu ENLIGHTEN DEEP BLEACHING. Rhoddir y platiau hyn i chi 10 diwrnod ar ôl cymryd yr argraffiadau, ynghyd â chyflenwad o gel gwynnu. Byddwch yn cysgu gyda nhw dros nos, fel arfer am 14 noson. Efallai y byddwch hefyd yn cael proses i asesu sensitifrwydd.
Ymweliad Gwynnu Gartref 3
Yn ystod yr ymweliad hwn, byddwn yn tynnu ffotograffau ar ôl gwynnu i gymharu lliw terfynol eich dannedd â’r lliw gwreiddiol cyn gwynnu. Yna, byddwn yn trafod trefniadau gwynnu yn y dyfodol, a fydd wedi'u teilwra'n benodol i'ch anghenion, er mwyn cynnal eich gwên newydd a gwynnach.
Pam mae System Gwynnu Dwfn ENLIGHTEN mor wahanol i systemau gwynu eraill?
Yn hanesyddol, y broblem fwyaf gyda gwynnu dannedd oedd y gallu i ragweld y canlyniadau a sensitifrwydd. Nid oedd modd rhagweld dannedd pwy oedd yn mynd i wynnu a phwy oedd yn mynd i fod mewn poen. Mae system gwynu dwfn Dr Kurthy wedi mynd i’r afael â’r ddwy broblem hon. Dyma'r unig system lle gellir rhagweld y canlyniad. Gall dannedd sydd wedi’u staenio â tetracycline (gwrthfiotig) gymryd ychydig wythnosau'n hirach ond mae canlyniadau gwych wedi'u gweld. Mae sylwadau gan fy nghleifion yn cynnwys “Alla i ddim credu pa mor wyn yw fy nannedd!” a “Waw, fy nannedd!”.
Nid wyf erioed wedi profi rhywbeth tebyg gydag unrhyw system gwynnu dannedd arall.
Gan fod y Platiau Gwynnu Dwfn yn selio mor dda, prin iawn o’r sylwedd sy’n gollwng i roi problem i chi. Mae sensitifrwydd bron wedi'i diflannu’n gyfan gwbl trwy ychwanegu seliwr fel rhan o'r Protocol Gwynnu Dwfn.
* Byddwch yn wyliadwrus o gynhyrchion gwynnu dannedd oddi ar y silff! Maent yn cynnwys llai na 0.1% hydrogen perocsid, ac felly nid oes unrhyw siawns o newid lliw cynhenid unrhyw ddant. Y gorau y gallwch chi obeithio amdano yw cael gwared ar unrhyw staeniau arwyneb (edrychwch yn ofalus ar gynhwysion unrhyw bast dannedd gwynnu!).
Cynnal a chadw
Bydd y canlyniadau yn parhau ar yr un lefel am gyfnod i’r rhan fwyaf o bobl sy’n parhau i wisgo’r platiau un noson bob yn ail mis.
Mae'r drefn cynnal a chadw yn bwysig gan ein bod bellach yn gallu gwarantu pa mor wyn y bydd y dannedd yn mynd a pha mor hir y byddant yn aros felly. Bydd cleifion yn hen gyfarwydd â’r ddihareb “ei wneud unwaith, ei wneud yn iawn”.
Prisiau Gwynnu
Enlighten Tooth
System gwynnnu gartref: Yn cynnwys ffotograffau cyn ac ar ôl o’ch dannedd, platiau gwynnu wedi'u gwneud yn arbennig ar gyfer ein dannedd uchaf ac isaf a gel gwynnu am 14 noson (3 ymweliad). £375.00 (£335.00 ar gyfer ein cwsmeriaid cynllun preifat DPAS). Fel uchod ond un bwa yn unig (naill ai uchaf neu isaf). £220.00. Bydd hyn yn gwynnu’r dannedd tua 4 lliw yn ysgafnach ar ein canllaw VITA.
* Cofiwch y gall dannedd sydd wedi’u staenio â Tetracycline gymryd hyd at 4 wythnos o gwynnu gartref er mwyn cael canlyniad boddhaol. Bydd taliad ychwanegol o £50.00 ychwanegol yn cael ei godi am gel gwynnu Enlighten cartref.