Amdanom Ni

Cartref > Amdanom Ni

Ers mis Gorffennaf 2016, mae Clinig Sgwâr Caernarfon wedi bod dan berchnogaeth Nia Hughes-Jones wedi iddi gymryd yr awenau gan Mr a Mrs Humphreys. Mae Nia a’i thîm cyfeillgar a phroffesiynol yn edrych ymlaen at groesawu cleifion hen a newydd, gan barhau i gynnig gwasanaeth deintyddol o’r safon uchaf. Ein hathroniaeth yw datblygu perthynas agos â'n cleifion er mwyn deall eu pryderon a'u dymuniadau yn drylwyr, a chynnig triniaeth o ansawdd mewn amgylchedd ymlaciol, cyfeillgar, a phroffesiynol.

Er cysur ein cleifion, mae gennym deledu mawr a detholiad eang o gylchgronau cyfoes yn ein derbynfa fodern. Mae pob ystafell drin yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, a golygfeydd hyfryd o'r harbwr a sgwâr Caernarfon. Ar hyn o bryd, oherwydd y cynllun presennol, nid yw ein hystafelloedd trin rhestredig B yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac ni allwn ddarparu toiled i bobl anabl.

Mae ein tîm yn cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf mewn deintyddiaeth ac yn cynnal gwasanaeth hynod broffesiynol.

Isod gallwch weld lluniau a phroffiliau'r tîm yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon.

Cyfarfod y Tîm

Nia Hughes-Jones

Nia Hughes-Jones, BDS, MFDS (Perchennog a Phrif Ddeintydd)

Nia yw’r Prif Ddeintydd yma yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon ers Gorffennaf 2016. Enillodd ei chymhwyster yn 2002 o UWCM yng Nghaerdydd. Ers hynny, mae Nia wedi gweithio mewn amgylchedd ysbyty a phasio arholiadau Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2006. Prynodd bractis yn y Mwmbwls yn 2009 cyn penderfynu dychwelyd i ardal Caernarfon er mwyn bod yn agosach at deulu a ffrindiau. Yn ei hamser hamdden, mae Nia'n mwynhau ffasiwn ac archwilio ei chreadigrwydd.

Sarah Rhys-Thomas

Sarah Rhys-Thomas, BDS, BFC - Deintydd

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, graddiodd Sarah o UMCM Caerdydd yn 2000 ar ôl ennill BSC mewn gwyddor ddeintyddol, yn ogystal â’i chymhwyster deintyddol. Gweithiodd yn Abertawe am flwyddyn cyn dychwelyd i fyw a gweithio ar Ynys Môn. Mae Sarah wedi bod yn ddeintydd cyswllt gyda ni ers 2017 ac mae hi’n aelod gwerthfawr o’n tîm, gan ddarparu gofal o ansawdd gydag amynedd a chydymdeimlad. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n hoffi treulio amser gyda’i theulu a cherdded gyda’i chŵn.

Prysor Aled

Prysor Aled, BDS - Deintydd

Ac yntau wedi’i eni a’i fagu yng Nghaernarfon, graddiodd Prysor o Brifysgol Caerdydd yn 2010. Gweithiodd mewn practis ym Mhenrhyndeudraeth am 9 mlynedd cyn ymuno â’r tîm yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon fel deintydd cyswllt ym mis Awst 2019. Mae Prysor yn ymroi i ddarparu gofal o ansawdd mewn amgylchedd ymlacedig ac yn cymryd ei amser i egluro a thrafod gweithdrefnau deintyddol er mwyn tawelu meddwl y claf. Y tu allan i’r gwaith, mae Prysor yn mwynhau archwilio Eryri ar droed ac ar ei feic yn ogystal â chynnig help llaw ar fferm y teulu.

Nici Rowlands

Nici Rowlands - Hylenydd

Mae Nici wedi bod yn rhan o’r tîm yma yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon ers mis Chwefror 2007. Dechreuodd fel Nyrs Ddeintyddol yn gynnar yn ei gyrfa cyn mynd i Ysgol Ddeintyddol Lerpwl yn 2004 am 2 flynedd, a chymhwyso fel Hylenydd Deintyddol yn 2006. Erbyn hyn, mae hi’n rhan annatod o’r tîm, yn gweithio yn ddi-baid i sicrhau bod cegau ein cleifion yn parhau yn y cyflwr gorau a dangos iddynt y camau i'w cymryd i'w cadw yn iach rhwng apwyntiadau. Mae hi’n broffesiynol ac yn ymroddedig, a chaiff ei gwerthfawrogi’n fawr gan aelodau eraill y practis a’r cleifion oll.

Ceri Toleman

Ceri Toleman - Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Dechreuodd Ceri weithio yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon ym mis Chwefror 2022, a gallwch ddod o hyd iddi yn y ddeintyddfa neu ar y dderbynfa. Cafodd Ceri ei geni yng Nghaernarfon ac mae’n byw yn lleol, yn gweithio’n galed a bob tro yn barod i helpu. Mae hi wedi cymhwyso fel Nyrs Ddeintyddol yn ddiweddar ac ennill ei Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol. Mae Ceri yn mwynhau Celf a cherdded ei chi “Ted”.

Wendy Williams

Wendy Williams - Prif Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Mae gan Wendy dros 30 mlynedd o brofiad fel Nyrs Ddeintyddol ac mae hi wedi gweithio yn ein practis ni ar hyd ei gyrfa, gan weld sawl newid mewn deintyddiaeth dros y blynyddoedd. Mae Wendy yn gweithio’n bennaf ar y dderbynfa y dyddiau hyn, ond gallwch ddod o hyd iddi yn y ddeintyddfa o bryd i’w gilydd. Mae hi’n gyfarwydd iawn i lawer o’n cleifion a’u teuluoedd, ac mae pawb yn hoff iawn ohoni ac yn ymddiried ynddi.

Ffion Jones

Ffion Jones - Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Dechreuodd Ffion gyda’r practis ym mis Rhagfyr 2018 ac ennill ei Diploma City and Guilds mewn Nyrsio Deintyddol yn 2020. Mae Ffion yn gweithio yn y ddeintyddfa yn bennaf, ond gallwch hefyd ddod o hyd iddi yn helpu yn y dderbynfa. Mae hi’n garedig, yn ystyriol a bob tro yn barod i helpu. Pan nad yw Ffion yn y gwaith, mae hi wrth ei bodd yn cerdded ei chi a threulio amser gartref.

Sara Jones

Sara Jones - Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Dechreuodd Sara gyda ni ym mis Chwefror 2022. Mae hi’n ‘hogan’ leol sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae Sara yn gyfeillgar iawn, wastad â gwên ar ei hwyneb, a gallwch ddod o hyd iddi yn y ddeintyddfa ac ar y dderbynfa. Mae Sara hefyd wedi cymhwyso fel Nyrs Ddeintyddol yn ddiweddar ac ennill ei Diploma City and Guilds Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau teithio, coginio a chymdeithasu gyda’i ffrindiau.

Henryette Hamilton

Henryette Hamilton - Nyrs Ddeintyddol

Mae Henry wedi bod yn rhan o’r tîm yn rhan amser ers mis Gorffennaf 2014. Mae hi’n gweithio yn y ddeintyddfa yn bennaf ac yn arbennig o ddymunol, wastad yn barod i helpu, yn ystyriol ac yn gweithio’n dda iawn  o fewn ein tîm. Cymhwysodd fel Nyrs Ddeintyddol ym 1991 yng Ngholeg Utrecht yn yr Iseldiroedd, ac mae hi bellach wedi trosi hynny yn Gymhwyster NVQ Prydeinig. Pan nad yw’n gweithio gyda’n Prif Ddeintydd yma, mae Henry yn rhedeg hostel prysur iawn yng Nghaernarfon.

Erin Roberts

Erin Roberts - Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Ymunodd Erin â’r tîm ym mis Gorffennaf 2023. Ers hynny, mae hi wedi cymhwyso fel Nyrs Ddeintyddol gan weithio ochr yn ochr â Sarah a Sioned. Yn ei hamser hamdden, mae Erin yn hoffi cymdeithasu gyda ffrindiau, teithio a gwrando ar gerddoriaeth.

Nicola

Nicola Looney - Nyrs Ddeintyddol/Derbynnydd

Dechreuodd Nicola weithio yng Nghlinig Sgwâr Caernarfon yn 2011 a chymhwyso fel Nyrs Ddeintyddol ym mis Awst 2013. Ar ôl gadael ym mis Medi 2022, dychwelodd i’r tîm ym mis Medi 2025 ac mae hi’n hapus iawn i fod yn ôl. Y tu allan i’r gwaith, mae hi’n mwynhau treulio amser gyda’i gŵr a’i dwy ferch, yn ogystal â cherdded gyda’i chŵn, Mabli a Luna. Mae hi wrth ei bodd yn bwyta allan a rhoi cynnig ar leoedd newydd, ac yn arbennig o hoff o fynd ar wyliau a threulio amser o ansawdd gyda’i theulu.

Sioned

Sioned Owens - Therapydd

Cymhwysodd Sioned fel Therapydd Deintyddol o UWCM Caerdydd yn 2004 gan ddechrau ei gyrfa mewn deintyddiaeth gymunedol, lle treuliodd 15 mlynedd yn gweithio’n bennaf gyda phlant. Yn ystod yr amser hwn, fe weithiodd hefyd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector preifat ar draws De Cymru. Yn 2025, dychwelodd Sioned i Gaernarfon ac ymuno â Chlinig Sgwâr Caernarfon. Gyda’i dull digynnwrf a thyner tuag at ddeintyddiaeth, mae Sioned yn ymwybodol y gall rhai cleifion deimlo’n bryderus am driniaeth ac mae hi’n cymryd gofal i wneud eu profiad mor gyfforddus a chysurlon a phosibl.