Deintyddiaeth Gosmetig
Cartref > Ein Gwasanaethau > Deintyddiaeth Gosmetig
Rydym am i chi brofi'r hyder o wybod bod eich ceg yn iach a'ch bod yn edrych ar eich gorau.
Mae datblygiadau modern mewn technoleg ddeintyddol yn ein galluogi i wella eich gwên yn sylweddol. Gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf, gallwn wynnu dannedd, sythu ac ail-siapio dannedd gan ddefnyddio coronau ac argaenau (veneers) porslen, a gosod mewnblaniadau deintyddol yn lle dannedd coll yn barhaol (trwy atgyfeiriad).
Ein nod yw creu dannedd hardd a naturiol yr olwg sydd wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer unigolion gyda’r gofal, y sgil a'r sylw mwyaf i fanylion.
Cysylltwch â'r practis am apwyntiad ymgynghori i asesu’r geg yn llawn. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw radiograffau, argraffiadau ar gyfer modelau astudio, asesiad o’r deintgig (gums) a siartio dannedd llawn. Byddwch yn cael adroddiad ysgrifenedig llawn yn amlinellu’r holl driniaethau sydd ar gael i chi, a’r costau ynghlwm â hynny.
Sylwch: Ni ellir derbyn ceisiadau am driniaethau unigol oni bai y gellir cadarnhau bod y geg yn iach ac wedi'i chynnal a'i chadw'n dda.