Cynllun Gofal Deintyddol
Cartref > Ein Gwasanaethau > Cynllun Gofal Deintyddol
Ar gyfer oedolion, darperir gofal deintyddol yn breifat ond rydym yn parhau i ddarparu ar gyfer anghenion deintyddol y plant sy’n gleifion i ni o dan y GIG. Gofynnir i bob claf newydd sy’n ymuno â’n practis ddod yn aelod o Gynllun Gofal Deintyddol y Castell. Mae ein cynllun ein hunain yn ffordd wych i'n cleifion allu fforddio'r gofal deintyddol gorau am gost resymol, ac mae'n gweithio'n dda i'n cleifion. O ganlyniad, gofynnir i bob claf newydd i’n practis ymuno â’n cynllun yn dilyn cwrs cychwynnol o driniaeth breifat i’w gwneud yn ddeintyddol ffit, y codir tâl amdano ar sail ffi fesul eitem. Mae manylion ein cynllun, taliadau debyd uniongyrchol misol a’r ffioedd preifat cyfredol ar gael gan staff y dderbynfa.
Mae'r swm misol sefydlog yn eich helpu i gyllidebu ar gyfer gofal deintyddol rheolaidd, fforddiadwy, ataliol, heb ofni biliau costus ac annisgwyl.
Gyda Chynllun Gofal Deintyddol y Castell, mae eich taliadau misol yn cynnwys eich holl apwyntiadau rheolaidd yn ein practis deintyddol, gan gynnwys triniaethau gwraidd, llenwadau lliw dannedd a phob apwyntiad â’r hylenydd (hygienist).
Ffioedd labordy, deintyddiaeth gosmetig (gan gynnwys gwynnu dannedd) ac atgyfeiriadau arbenigol yw'r unig rannau o’ch gofal deintyddol nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn (mae'r rhain yn eithriadau safonol ledled y DU). Felly, er enghraifft, byddai cost lawn coron breifat tua £500.00, ond o dan ein cynllun, byddech chi ond yn talu bil y labordy deintyddol ar gyfer adeiladu'r goron, sef £90.00 - £200.00 ar hyn o bryd, yn dibynnu ar y math o goron.
Mae ein Cynllun yn rhoi tawelwch meddwl i’n holl gleifion petaech yn dioddef damwain ddeintyddol neu os oes gennych argyfwng y tu allan i oriau arferol y deintydd ac ni allwch gysylltu â’ch deintydd. Mae gan ein Cynllun Gofal rif y gallwch ei ffonio bedair awr ar hugain y dydd o unrhyw le yn y byd ac maent yn sicrhau y bydd cymorth wrth law. Mae'n cynnwys Polisi Yswiriant ar gyfer Damweiniau ac Argyfyngau, gydag Yswiriant Mewnblaniad dewisol
Lawrlwytho llyfryn Cynllun Gofal Deintyddol y Castell (Saesneg yn unig...)